Llywodraeth Cymru
Canllawiau Statudol i
Awdurdodau Rheoli Perygl
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Adran 13(1) – Cydweithredu a threfniadau
Adran 14 – Pŵer i ofyn am wybodaeth
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag Adran 8(6) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Cynnwys
Cefndir – Gweithio mewn Partneriaeth a Rheoli’r Perygl o Lifogydd yng Nghymru
2 Cydweithredu a threfniadau: Adran 13(1)
Pwy sy’n awdurdodau perthnasol?
Beth yw’r swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol?
3 Pŵer i ofyn am wybodaeth: Adran 14
I bwy y mae Adran 14 yn berthnasol?
Sut i ofyn am wybodaeth o dan Adran 14
4 Egwyddorion cyffredinol ceisiadau am wybodaeth
Ceisiadau gan Awdurdodau Rheoli Perygl
Ceisiadau gan bersonau nad ydynt yn ARhP
5 Ystyriaethau cyfreithiol wrth ofyn am wybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth
Atodiad A – Awdurdodau Rheoli Perygl yng Nghymru
Atodiad B – Enghreifftiau o Swyddogaethau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Mae Rhan 1 yn nodi diben y canllawiau hyn, ac ar gyfer pwy y’u lluniwyd. Mae hefyd yn egluro’r cefndir ehangach a’r sylfaen ddeddfwriaethol.
|
1.1 Bydd y canllawiau hyn yn berthnasol yn bennaf i’r Awdurdodau Rheoli Perygl[1] (ARhP), er y gallai cyrff ac unigolion eraill, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd fod â diddordeb ynddynt, yn enwedig os cânt eu gofyn, neu os oes tebygrwydd y cânt eu gofyn, am wybodaeth sydd ganddynt ynglŷn â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
1.2 Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau statudol ar weithredu Adrannau 13(1) ac 14 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010[2] (y Ddeddf) yng Nghymru.
1.3 Diben y canllawiau yw rhoi cyngor i alluogi ARhP i gydweithio’n adeiladol i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Fe’u lluniwyd hefyd i sicrhau bod ceisiadau am wybodaeth, pan gânt eu cyflwyno, yn cael eu cyflwyno mewn ffordd briodol.
1.4 Mae cydweithredu rhwng ARhP yn bwysig oherwydd y cydfanteision a all ddeillio o gydweithio a rhannu gwybodaeth. Gall achosion llifogydd ac erydu arfordirol groesi ffiniau sefydliadol a chyfrifoldebau. Bydd atebion arloesol, cydgysylltiedig a chynaliadwy yn tarddu o barodrwydd i gydweithredu ac o bartneriaethau gweithredol rhwng ARhP, tirfeddianwyr preifat, busnesau, Awdurdodau Cynllunio Lleol a chymunedau yr effeithir arnynt.
1.5 Dylid eu darllen ar y cyd â’r cyngor Anstatudol ar Rannu Gwybodaeth[3] a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, sy’n rhoi cyngor ‘arfer da’ ar rannu gwybodaeth rhwng ARhP ac a baratowyd drwy ymgynghori â phartneriaid allweddol. Bydd y canllawiau anstatudol hyn yn adeiladu ar yr egwyddorion a geir yn y ddogfen hon ac maent yn cynnwys gwybodaeth megis astudiaethau achos, cytundebau enghreifftiol a safonau data.
1.6 Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Pecyn Cymorth ar gyfer Ymgysylltu â Chymunedau ynghylch Rheoli’r Perygl o Lifogydd[4], sy’n seiliedig ar wersi a ddysgwyd o ymchwil i elfennau ‘gweithio mewn partneriaeth’ ac ‘ymgysylltu â chymunedau’ y tair Astudiaeth Beilot a gyflawnwyd yn y Barri, Prestatyn a Phwllheli a sampl o’n rhaglen o gynlluniau a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop[5] (ERDF). Nod y Pecyn Cymorth yw helpu’r rhai sy’n gyfrifol am gynlluniau rheoli perygl llifogydd neu’r rhai sydd o bosibl yn gysylltiedig â gweithgarwch ehangach i reoli’r perygl o lifogydd; a darparu canllawiau ar sut i fynd ati i ymgysylltu â chymunedau ac i weithio mewn partneriaeth.
1.7 Mae’r adroddiad sy’n cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil hon[6] ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r adroddiadau ar y tair Astudiaeth Beilot[7]. Mae’r gwersi a ddysgwyd o’r adroddiadau yn sylfaen i’r canllawiau hyn.
1.8 Y Pecyn Cymorth yw’r cam cyntaf at ddarparu canllawiau i helpu ARhP i ymgysylltu â chymunedau.
1.9
Yn
2007 lansiodd Llywodraeth Cymru y Rhaglen Dulliau Newydd[8], er mwyn helpu i bellhau
oddi wrth yr ymagwedd draddodiadol at lifogydd ac erydu arfordirol
a’i phwyslais ar amddiffyn, a symud tuag at ymagwedd fwy
cyfannol o reoli perygl. Nodwyd y byddai
gwaith partneriaeth cryf a chyfathrebu yn allweddol i wireddu
ymagwedd at lifogydd ac erydu arfordirol
sy’n seiliedig ar reoli perygl, a thanlinellwyd hynny
yn y Rhaglen Dulliau Newydd.
1.10
I ategu’r egwyddorion hynny,
lansiodd Llywodraeth Cymru dair astudiaeth beilot ar liniaru
llifogydd yn y Barri, Prestatyn a Phwllheli. Roedd y prosiectau i
gyd yn ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gwaith
partneriaeth cryf ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar faterion
perygl llifogydd. Cymhwyswyd yr un egwyddorion at yr amodau
sy’n gysylltiedig â darparu cyllid cyfalaf ar gyfer
rhaglenni a gefnogir gan yr ERDF o dan y rhaglenni Cydgyfeirio a
Chystadleurwydd Rhanbarthol.
1.11 Yn ôl y gwerthusiad o’r astudiaethau peilot a’r sampl o raglenni a gefnogir gan yr ERDF, ystyrid bod gweithio mewn partneriaeth yn beth da. Yn gyffredinol, roedd yr aelodau i gyd yn meddwl bod y syniad o gyrff yn gweithio mewn partneriaeth i reoli perygl llifogydd yn dda ac yn llwyddiannus. Er bod y mwyafrif yn cytuno bod meysydd i’w gwella, credid bod gweithio mewn partneriaeth yn cryfhau cynlluniau, am fod y cyrff i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.
1.12 Yn fuan ar ôl lansio’r Rhaglen Dulliau Newydd, cafwyd cyfnod o law trwm yn y DU a arweiniodd at lifogydd difethol haf 2007. Er i Gymru osgoi’r gwaethaf o lifogydd 2007, effeithiwyd yn fawr ar Loegr a gofynnodd Llywodraeth y DU i Syr Michael Pitt gynnal adolygiad o’r llifogydd yn Lloegr.
1.13
Nododd
Adolygiad Pitt y dylai’r asiantaethau sy’n gyfrifol am
reoli perygl llifogydd fod yn barod i gydweithio a rhannu
gwybodaeth, ac er ei fod yn ymwneud yn bennaf â pherygl
llifogydd yn Lloegr, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i
ddysgu gwersi’r Adolygiad i gydnabod y peryglon o lifogydd ar
draws Cymru.
1.14 Ar sail canfyddiadau Adolygiad Pitt, ymgynghorodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gynigion i newid y polisïau a’r ddeddfwriaeth sy’n sylfaen i’n hymateb i’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
1.15
Mae
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (y Ddeddf) a ddeilliodd o
hynny yn nodi cyfrifoldebau newydd ar gyfer ARhP llifogydd ac erydu
arfordirol. Yn bwysig, mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd
statudol ar bob awdurdod perthnasol i gydweithredu (gweler
paragraff 2.2).
1.16 Mae Adran 14 o’r Ddeddf hefyd yn rhoi pŵer i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA)[9] ac Asiantaeth yr Amgylchedd ofyn am wybodaeth gan bartïon eraill (‘personau’ yn y Ddeddf) ynglŷn â’u swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol[10]. Mae Adran 14 hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth mewn perthynas â’u dyletswydd i ddatblygu, cynnal a gweithredu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
1.17 O dan Adran 8 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae’r strategaeth hon yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn genedlaethol. Mae’n amlinellu amcanion cenedlaethol i reoli pob math o berygl llifogydd ac erydu arfordirol a sut i’w cyflawni. Mae copi o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru[11].
1.18 Mae Adran 8(5) o’r Ddeddf yn nodi y gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio’r Strategaeth Genedlaethol. Mae hyn yn fater sy’n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi y gall Gweinidogion Cymru, yn unol ag Adran 8(6), gyhoeddi canllawiau ar sut y dylai ARhP Cymru gydymffurfio â dyletswyddau’n ymwneud â chydweithredu a cheisiadau am wybodaeth o dan Adrannau 13(1) ac 14.
1.19
Mae
Adran 10 o’r Ddeddf yn nodi bod gan ALlLlA ddyletswydd i
ddatblygu, gweithredu a chynnal Strategaeth Leol Rheoli Perygl
Llifogydd ar gyfer eu hardaloedd. Rhaid i Strategaethau Lleol fod
yn gyson â’r Strategaeth Genedlaethol. Bydd cydweithio a
chyfnewid gwybodaeth yn hanfodol i ddatblygu a gweithredu’r
Strategaethau Cenedlaethol a Lleol.
1.20 Mae’n ofynnol i’r holl ARhP weithredu mewn ffordd sy’n gyson â’r Strategaeth Genedlaethol a’r Strategaethau Lleol. Yr unig eithriad i hyn yw cwmnïau dŵr y mae’n rhaid iddynt weithredu mewn ffordd sy’n gyson â’r Strategaeth Genedlaethol ond sydd ond yn gorfod rhoi sylw i’r Strategaethau Lleol.
Mae Rhan 2 yn nodi’r awdurdodau y mae angen iddynt gydweithredu o dan Adran 13(1), y rolau a gyflawnir ganddynt o ran rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol, a manteision cydweithredu a rhannu gwybodaeth.
|
2.1 Mae Adran 13(1) o’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdod perthnasol gydweithredu ag awdurdodau perthnasol eraill wrth arfer ei swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
2.2 Yng Nghymru, mae awdurdodau perthnasol yn golygu Gweinidogion Cymru a’r ARhP, sy’n cynnwys:
(a) Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b) awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru;
(c) byrddau draenio mewnol ar gyfer ardaloedd sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
(ch) cwmnïau dŵr sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ardaloedd yng Nghymru;
(d) awdurdodau priffyrdd ar gyfer ardaloedd sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru.
Gweler Atodiad A am y rhestr lawn o ARhP yng Nghymru.
2.3 Diffinnir y swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyfreithiol yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adrannau 4 a 5). Mae sawl Deddf Seneddol flaenorol yn dal mewn grym neu wedi’u haddasu gan y Ddeddf a chan Orchymyn Swyddogaethau Rheoli Perygl Llifogydd 2010[12]. Ceir yn Atodiad B restr nad yw’n gyflawn o’r mathau o weithgareddau y gellid ymgymryd â hwy i gyflawni’r swyddogaethau. Felly, mae’r ddyletswydd newydd ar gyrff i gydweithredu yn berthnasol i bob agwedd ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
2.4 Nod y ddyletswydd i gydweithredu rhwng awdurdodau perthnasol yw sicrhau bod ymgysylltu adeiladol a gweithredol yn digwydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn ymgysylltu’n adeiladol â’r holl ARhP, a bydd yn disgwyl i ARhP wneud yr un peth. Mae cydweithredu yn hanfodol i helpu i adeiladu perthnasoedd lleol rhwng ARhP o fewn ac ar draws ffiniau gweithredu.
2.5 Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd ac ALlLlA yn aml yn cymryd yr awenau o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cynnal Strategaeth Genedlaethol ac ALlLlA yn datblygu ac yn cynnal Strategaethau Lleol. Mae’n hanfodol fod ARhP llifogydd ac erydu arfordirol eraill yn cynnig eu cymorth os yw’r Strategaethau hyn i esgor ar ganlyniadau effeithiol.
2.6 Bydd strategaethau lleol yn arbennig yn aml yn cynnwys rheoli gwahanol fathau o lifogydd. Bydd cydweithio, cydweithredu a deall amcanion yn helpu’r holl ARhP i ymrwymo i’r strategaethau lleol ac yn helpu i sicrhau’r canlyniadau a ddymunir.
2.7 Gall ARhP eraill (gan gynnwys cwmnïau dŵr a Byrddau Draenio Mewnol) hefyd chwarae rhan flaenllaw mewn achosion lle mae rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau.
2.8 Mae cydweithredu yn golygu cyrff ac unigolion yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni canlyniadau mwy effeithiol nag y gallent eu cyflawni ar eu pennau eu hunain. Ategir hyn gan ganfyddiadau’r ymchwil a gynhaliwyd i’r cynlluniau peilot ac i sampl o gynlluniau a gefnogir gan y rhaglen ERDF yng Nghymru.
2.9 Mae cydweithredu yn seiliedig ar ymddiriedaeth, ar gyfathrebu da, ar rannu gwybodaeth ac adnoddau, ac ar well dealltwriaeth o’r cydfanteision a all ddeillio ohono.
2.10 Mae cydweithredu yn parchu buddiannau’r rhai dan sylw, ond mae hefyd yn hybu buddiannau ehangach y grŵp a’i randdeiliaid. Yn aml, bydd angen arweinyddiaeth glir i sefydlu’r nodau i ymgyrraedd atynt, ond bydd cydweithredu yn hanfodol wedyn i gyflawni’r nodau hynny.
2.11 Gall gweithio mewn partneriaeth helpu i wella cydweithredu rhwng ARhP. At hynny, gall partneriaethau helpu awdurdodau i wella’u dealltwriaeth o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ehangach, ac i ddysgu mwy, er enghraifft, am arbenigedd cyrff sy’n bartneriaid. Bydd hyn yn eu galluogi i gydgysylltu eu gwaith yn well er mwyn sicrhau manteision niferus. Lle na fydd un awdurdod yn gallu cyflawni ateb ar ei ben ei hun, efallai y bydd awdurdod arall yn gallu helpu. Er enghraifft, gallai awdurdod i fyny’r afon gyflawni gwaith mewn cytundeb[13] ag awdurdod i lawr yr afon.
2.12 I reoli peryglon o lifogydd ac erydu arfordirol, mae’n hanfodol deall eu hachosion ac asesu atebion ymarferol. Mae’n fwy tebygol y bydd yr wybodaeth fwyaf perthnasol yn cael ei nodi pan fydd pawb dan sylw yn amlwg yn deall amcanion a manteision posibl astudiaeth neu brosiect, ac yn cyfrannu gwybodaeth o’u gwirfodd i’w hategu. Dylai trafodaethau ynghylch amcanion ddigwydd yn gynnar yn y gwaith.
2.13 Dylai ARhP edrych tua’r dyfodol wrth gynllunio gwaith. Bydd hyn yn eu galluogi i rannu’n rhwydd yr wybodaeth a gasglant, ac yn eu helpu i gydweithio’n well. Bydd hyn yn ei dro yn fanteisiol i’r corff unigol, am y bydd yn cynyddu’r wybodaeth sydd ar gael iddo i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, gall estyn gwaith casglu gwybodaeth neu arolygon ryw ychydig fod yn fanteisiol weithiau i feysydd gwaith eraill.
2.14 Mae partneriaethau yn ffordd dda o ffurfioli trefniadau cydweithredu a chydlafurio rhwng ARhP ac eraill. Gall dogfennau fel memoranda cyd-ddealltwriaeth a phrotocolau rhannu gwybodaeth ategu’r trefniadau hyn er na ddylai protocolau o’r fath fynd yn rhy fiwrocrataidd ac anodd eu gweinyddu. Mae enghreifftiau o waith partneriaeth effeithiol ar gael yng nghanllawiau anstatudol Asiantaeth yr Amgylchedd ac ym Mhecyn Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymgysylltu â Chymunedau ynghylch Rheoli’r Perygl o Lifogydd.
2.15 Mae angen sefydlu partneriaethau fel eu bod yn diwallu anghenion lleol yn y ffordd orau. Gallant fod yn strategol neu yn gysylltiedig â phrosiect penodol. Gallant adeiladu ar drefniadau cyfredol (fel fforymau cynaliadwyedd, fforymau lleol Cymru gydnerth, neu bartneriaethau arfordirol), ond rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw ehangu o ran y cylch gwaith. Gallant ymdrin ag ystod o weithgareddau i’w cyflawni cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, megis rhannu gwybodaeth, ffyrdd o weithio, cyfathrebu, ymateb i ddigwyddiad, datblygu strategaeth, a dylunio gwaith newydd. Gall partneriaethau gael eu gweithredu hefyd drwy Adran 13(4) yn y Ddeddf. Mae hyn yn caniatáu i un awdurdod gyflawni swyddogaethau awdurdod arall, naill ai yn gyffredinol neu ar gyfer prosiect, lleoliad neu gyfnod penodol.
2.16 Dylai ARhP ystyried yr agweddau canlynol wrth sefydlu partneriaethau:
2.17 Mae’r ddyletswydd i geisio a rhannu gwybodaeth wedi’i chynnwys yn Adran 13(2). O dan egwyddorion cydweithredu a phartneriaeth, disgwylir i ARhP gydymffurfio heb orfodaeth â’r dyletswyddau o dan Adran 13(1) a chyfnewid gwybodaeth a fydd yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol heb godi tâl. Gall memoranda cyd-ddealltwriaeth neu gytundebau rhannu data ategu hyn.
Mae Rhan 3 yn edrych ar yr awdurdodau sydd â’r pŵer i ofyn am wybodaeth, yn egluro’r hyn a olygir wrth y term gwybodaeth, ac yn nodi materion i’w hystyried cyn defnyddio’r pŵer.
|
3.1 Mae Adran 14(2) yn nodi’r awdurdodau a all ofyn i berson ddarparu gwybodaeth, fel Asiantaeth yr Amgylchedd ac ALlLlA. Rhaid i’r wybodaeth y gofynnir amdani fod yn gysylltiedig â swyddogaeth rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd/ALlLlA.
3.2 Gall Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i bersonddarparu gwybodaeth ynghylch swyddogaeth yn gysylltiedig â’r Strategaeth Genedlaethol Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
3.3 Mae person yn golygu person cyfreithiol. Ystyr hynny yw unrhyw endid sydd â statws cyfreithiol ac mae’n cynnwys person naturiol, cwmni, ymddiriedolaeth neu gorff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdod rheoli perygl.
3.4 Ar bob adeg dylai’r awdurdodau sy’n cyflwyno ceisiadau weithredu’n rhesymol. Mater i gyfreithwyr yn y pen draw fyddai penderfynu a yw cais penodol yn rhesymol. Sut bynnag, dylai’r awdurdod gadw’r egwyddor hon mewn cof bob amser. Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar fanylion yr achos penodol a gall amrywio, hyd yn oed mewn amgylchiadau sy’n ymddangos yn debyg.
3.5 Bydd cais a wneir o dan Adran 14 yn cychwyn proses y mae’n rhaid i’r person sy’n derbyn gydymffurfio â hi. Os na fydd yn cydymffurfio, dylai’r awdurdod (Asiantaeth yr Amgylchedd, ALlLlA neu Weinidogion Cymru) egluro ymhellach eu pŵer i wneud y cais am wybodaeth o dan Adran 14. Dylent hefyd bwysleisio bod yn rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf neu’r ffordd ac o fewn y cyfnod a bennwyd yn y cais.
3.6
Mae
Adran 15 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn bosibl i’r awdurdod
(Asiantaeth yr Amgylchedd, ALlLlA neu Weinidogion Cymru) gyflwyno
hysbysiad gorfodi i berson os na fydd yn cydymffurfio â chais
i ddarparu gwybodaeth. Os na chydymffurfir â’r hysbysiad
hwn, gellir bwrw ymlaen â chosbau sifil. Mae’r cosbau
sifil yn cynnwys hysbysiad cosb a dirwyon posibl.
3.7
Os
caiff hysbysiad cosb ei gyflwyno i berson, neu ddirwy ei chodi
arno, mae hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf[14]. Nodir hyn yn
Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac
Erydu Arfordirol (Cymru) 2011[15].
3.8 Mae gwybodaeth yn golygu data, dogfennau, ffeithiau, cudd-wybodaeth neu gyngor ar unrhyw ffurf gofnodedig, a bwriedir (at ddibenion y canllawiau hyn) i’r term fod â’r un ystyr â ‘dogfen’ yn Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005[16]. Mae’n cynnwys:
· ffeiliau papur, nodiadau, adroddiadau a dogfennau copi caled eraill (mewn llawysgrifen neu wedi’u teipio);
· cofrestrau cyhoeddus;
· cronfeydd data, taenlenni;
· dogfennau electronig;
· negeseuon e-bost;
· darluniau a chynlluniau;
· ffotograffau, fideo neu ficroffilm;
· data a gwybodaeth, a all fod wedi’u cynnwys mewn neu gyda meddalwedd;
· methodolegau.
3.9 Pan fydd Asiantaeth yr Amgylchedd, ALlLlA neu Weinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth dylent ddilyn yr egwyddorion ym mharagraff 4.1. Wrth wneud cais am wybodaeth dylai’r awdurdod sy’n gwneud y cais egluro:
Er enghraifft, gall eglurhad manylach o’r rhesymau am gais fod yn fwy buddiol i aelod o’r cyhoedd nag i awdurdod arall. Mae canllawiau ar ffyrdd o ymgysylltu’n briodol â’r cyhoedd wedi’u cynnwys yn y Pecyn Cymorth ar gyfer Ymgysylltu â Chymunedau ynghylch Rheoli’r Perygl o Lifogydd.
3.10 Ni ellir codi tâl am geisiadau am wybodaeth o dan Adran 14, ac ni all y rhai a ofynnir adennill unrhyw gostau. Mae’r rhwymedigaeth o dan Adran 14 i ddarparu gwybodaeth yn ddiamod ac nid oes fel arfer eithriadau i hyn. Rhaid i awdurdodau ystyried bob tro a yw’n briodol gofyn am wybodaeth.
3.11 Disgwylir i’r holl awdurdodau rheoli llifogydd a pherygl ddilyn yr egwyddorion a nodir yn Rhan 4 isod wrth gyfnewid gwybodaeth, a chydweithredu â’i gilydd fel y nodir yn Adran 13 o’r Ddeddf. Mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymo i ddilyn yr egwyddorion wrth wneud ceisiadau o’r fath. Nid oes gan bersonau eraill (gweler paragraff 3.1 isod) yr un dyletswyddau ac ni fydd ganddynt o reidrwydd yr un blaenoriaethau ag awdurdod rheoli perygl. Nodir ystyriaethau ychwanegol ar eu cyfer hwy ym mharagraff 4.2 isod.
Mae Rhan 4 yn nodi egwyddorion da i’w dilyn wrth geisio gwybodaeth. Mae’n berthnasol i rannu gwybodaeth rhwng ARhP yn rhan o Adran 13 o’r Ddeddf, a lle y gwneir ceisiadau am wybodaeth o dan Adran 14.
|
4.1 Nodir yr egwyddorion canlynol i helpu i sicrhau bod ceisiadau am wybodaeth ac ymatebion gan ARhP yn rhesymol. Lle y gwneir cais am wybodaeth gan berson neu gorff nad yw’n ARhP, mae ystyriaethau ychwanegol wedi’u rhestru ym mharagraff 4.2 isod. Mae cysylltu o flaen llaw â’r rhai y gofynnir iddynt am wybodaeth yn fwy tebygol o arwain at geisiadau rhesymol.
Egwyddorion |
Dylai’r awdurdod perthnasol sy’n gofyn |
Dylai’r awdurdod perthnasol sy’n ymateb |
1 – A yw’r wybodaeth gennych eisoes? |
Sicrhau bod pwy bynnag sy’n gofyn am wybodaeth yn gallu cadarnhau nad yw’r data ganddynt eisoes yn eu sefydliad. |
Amherthnasol |
2 – Ceisiadau ysgrifenedig ac argyfyngau |
Sicrhau bod pob cais llafar am gydweithrediad neu wybodaeth yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig (e-bost yn ddigon), fel bod y cais yn glir;
Nodi a yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod argyfwng go iawn, ac na fydd ceisiadau ysgrifenedig bob amser yn bosibl;
Anfon cadarnhad pan fydd yr argyfwng ar ben.
|
Gofyn i bob cais llafar am gydweithrediad gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig (e-bost yn ddigon), fel bod y cais yn glir;
Derbyn na fydd ceisiadau ysgrifenedig bob amser yn bosibl mewn cyfnodau o argyfwng go iawn. |
3 – Rhesymau am y cais a chydnabod |
Egluro mewn ffordd annhechnegol pam y mae’n gofyn am yr wybodaeth a sut y caiff ei defnyddio yng nghyd-destun ei swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol cyffredinol;
Cynnwys, lle y bo’n berthnasol, gyfeiriad at unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r cais yn gysylltiedig â hi;
Nodi y bydd yr wybodaeth ond yn cael ei defnyddio ar gyfer swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol penodol;
Sicrhau mai dim ond at ddibenion o fewn y cylch gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio. |
Cydnabod derbyn y cais a rhoi gwybod cyn gynted ag y bo’n ymarferol:
|
4 – Union fanylion y cais am wybodaeth |
Trafod â’r awdurdod neu’r person sy’n ymateb union faint, ansawdd a fformat yr wybodaeth sydd ei hangen cyn gofyn amdani, i sicrhau bod yn cais yn rhesymol.
Ystyried a rhestru union ffurf a fformat yr wybodaeth y gofynnir amdani, gan osgoi ceisiadau cyffredinol am yr holl ddata.
Penderfynu a ddylid bwrw ymlaen a chadarnhau’r cais neu ddileu’r cais.
Asesu a yw’r wybodaeth a dderbynnir yn addas i’r diben cyn ei defnyddio.
Cyn defnyddio gwybodaeth, rhoi sylw i unrhyw amodau trwydded, cyfyngiadau etc. |
Darparu’r wybodaeth benodol:
|
5 Nodi cyngor penodol |
Nodi cyngor penodol y gellid gofyn amdano ar bwnc, neu ynghylch defnyddio’r data a geisir. Wrth geisio cyngor, sicrhewch fod hyn yn canolbwyntio ar y prif feysydd o ddiddordeb.
|
Rhoi’r cyngor ac egluro’n gynnar os oes problemau, ar ôl cadarnhau nad ydynt eisoes wedi rhoi’r cyngor yn rhywle arall. |
6 Amserlenni |
Gofyn am wybodaeth o fewn amserlenni rhesymol, a fydd yn dibynnu ar natur ac amgylchiadau’r cais, a’r awdurdod neu’r person sy’n ymateb;
Rhestru ac egluro sail yr amserlenni;
Dylid ystyried bod rhesymol yn golygu’r un peth ag o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (Adran 5(2)). Mae hyn fel arfer yn caniatáu uchafswm o 20 diwrnod gwaith i ddarparu’r ymateb;
Yn ystod cyfnodau o argyfwng go iawn, ceisio cydweithrediad cyn gynted â phosibl i ddiwallu anghenion.
|
Cydweithredu o fewn amserlenni rhesymol, a fydd yn dibynnu ar natur ac amgylchiadau’r cais;
Yn ystod cyfnodau o argyfwng go iawn, dylai’r awdurdod gydweithredu cyn gynted â phosibl i ddiwallu anghenion;
Egluro’n gynnar os oes unrhyw broblemau o ran eu diwallu. |
7 – Camau nesaf |
Egluro beth fydd yn digwydd nesaf a ble, a phryd y bydd cais am ragor o gydweithredu yn debygol o gael ei wneud.
|
Codi unrhyw faterion ynghylch cynlluniau i ddefnyddio’r wybodaeth yn y dyfodol a thynnu sylw at gyfleoedd posibl i gydweithredu mewn gwaith yn y dyfodol. |
8 – Mwy o wybodaeth ac eglurder y cais |
Rhoi mwy o fanylion, os gofynnir amdanynt.
|
Gofyn am fwy o fanylion er mwyn deall y cais cyn gynted â phosibl.
|
9 – Cwrdd yn bersonol i drafod y cais |
Cwrdd a thrafod (yn rhithwir neu yn bersonol) i roi esboniad pellach, os gofynnir am hynny, o fewn amserlen resymol. |
Bod yn barod i gwrdd a thrafod (yn rhithwir neu yn bersonol), os gofynnir am hynny, o fewn amserlen resymol. |
4.2 Mae’r ystyriaethau ychwanegol canlynol yn berthnasol wrth ofyn am wybodaeth gan bersonau neu gyrff nad ydynt yn ARhP:
Egwyddor 2 (Ceisiadau Ysgrifenedig) – dylai cais:
a) cael ei wneud drwy lythyr neu o gyfrif e-bost swyddogol o fewn yr awdurdod, i gadarnhau ei ddilysrwydd;
b) egluro bod yr awdurdod yn gallu gofyn am yr wybodaeth o dan y Ddeddf, a’i bod yn ymwneud â’i swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol;
c) nodi’n glir fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 14, gan ddefnyddio geiriau fel ‘Mae’r awdurdod hwn / Yr wyf yn ceisio gwybodaeth o dan Adran 14 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010’;
ch) cynnwys gwybodaeth ategol fel cefndir i (b) ac (c) drwy gyfeirio at y Ddeddf, y canllawiau hyn, neu esboniadau a baratowyd o flaen llaw.
Egwyddor 2 (Ceisiadau Ysgrifenedig) – mae angen i amserlenni ar gyfer ceisiadau a wneir mewn argyfwng gydnabod y posibilrwydd nad oes gan y person y’i cyflwynir iddo rôl argyfyngau, neu’r posibilrwydd fod y person ei hun yn delio ag argyfwng.
|
Egwyddor 6 (Amserlenni) – bydd amserlenni rhesymol yn dibynnu ar faint o wybodaeth a’r math o wybodaeth a geisir. Dylai amserlenni ystyried y posibilrwydd nad yw’r wybodaeth yn cael ei chadw yn y ffurf a geisiwyd. Mae angen iddynt hefyd ystyried anghenion busnes neu anghenion eraill y person y cyflwynir y cais iddo.
|
Rhan 5: Mae’r rhan hon yn rhoi sylw i rai o’r darpariaethau cyfreithiol cyffredinol eraill ynghylch ceisio a darparu gwybodaeth. |
5.1 Mae ceisiadau am wybodaeth neu ymatebion yn ddarostyngedig i egwyddorion cyffredinol cyfraith gwybodaeth. Rhaid i bawb dan sylw gadw at hyn. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, dylid ceisio cyngor cyfreithiol penodol. Nid yw’r canllawiau hyn yn ddatganiad diffiniol o gyfraith gwybodaeth, ond dylech ystyried y canlynol wrth geisio gwybodaeth gan eraill.
5.2 Dim ond ar gyfer swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol y dylid defnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan Adran 13(1) neu 14. Os bydd dymuniad, neu angen, i ddefnyddio’r wybodaeth at ddibenion eraill dylid fel arfer ymgynghori â’r person sy’n darparu’r wybodaeth, oni bai fod y person sy’n darparu’r wybodaeth yn caniatáu yn ddiamwys (yn ysgrifenedig) iddi gael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill.
5.3 Gall gwybodaeth a geisir o dan Adran 13(1) neu 14 sydd wedi’i rhestru’n ddata personol, fel y nodir yn Neddf Diogelu Data 1998 (DDD), gael ei chadw’n ôl yn gyfreithlon, pe byddai rhannu’r wybodaeth honno yn torri’r DDD. Mewn achos o’r fath, fodd bynnag, gellir diwygio gwybodaeth drwy ei dadbersonoli er mwyn ei darparu heb dorri’r DDD. Nid yw’n gyfiawnhad dros wrthod darparu unrhyw beth pan ofynnir.
5.4 Dylai’r awdurdod neu’r person sy’n ymateb nodi pa gyfyngiadau neu bethau sensitif sydd yn yr wybodaeth pan gaiff ei darparu. Mae hyn yn cynnwys metadata (gwybodaeth ynghylch natur set ddata) sy’n gysylltiedig â data manwl y mae’n rhaid iddynt gynnwys cyfnod defnyddio’r wybodaeth ac amlder unrhyw ddiweddariadau. Dylent hysbysu’r person sy’n derbyn yr wybodaeth am unrhyw broblemau o ran ansawdd data, ei haddasrwydd i’r diben a materion cysylltiedig eraill; er enghraifft, a yw data ond yn ddilys am gyfnod penodol o amser ac a fyddant yn cael eu diweddaru yn y dyfodol. Os na ddarperir yr wybodaeth ategol hon, ni ddylai’r awdurdod sy’n gofyn am yr wybodaeth dybio nad oes cyfyngiadau ar eu defnyddio. Dylai’r materion hyn gael eu trafod a’u cadarnhau rhwng y ddau barti.
5.5 Efallai y bydd angen sicrwydd ar yr awdurdod neu’r person sy’n darparu’r wybodaeth na fydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio neu ei rhyddhau yn amhriodol, yn enwedig os yw’n sensitif. Efallai y byddant yn darparu’r wybodaeth o dan drwydded yn cynnwys telerau ac amodau defnyddio. Er enghraifft, amod sy’n rhoi cyfle i berchennog y data roi sylwadau ar wybodaeth cyn ei chyhoeddi.
5.6 O dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (RhGA)[17], gellir gofyn i awdurdod cyhoeddus sy’n derbyn yr wybodaeth ddatgelu unrhyw wybodaeth a roddir iddynt. Yn yr un modd â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, gellir eithrio peth gwybodaeth (megis data sy’n sensitif yn fasnachol) rhag cael ei rhyddhau o dan y RhGA. Sut bynnag, gall fod sefyllfaoedd lle y bydd rhwymedigaeth yn parhau i’w datgelu. Lle y caiff awdurdod cyhoeddus gais am unrhyw wybodaeth a rennir o dan Adran 13 neu 14, dylai’r awdurdod cyhoeddus hwnnw, fel arfer, ymgynghori â’r sawl a ddarparodd yr wybodaeth cyn i’r awdurdod cyhoeddus benderfynu a ddylid rhyddhau’r wybodaeth ai peidio.
5.7 Os yw’r wybodaeth yn cynnwys neu wedi defnyddio eiddo deallusol trydydd parti, dylai’r awdurdod neu’r person sy’n ymateb wirio a oes ganddynt yr hawl i’w darparu. Os nad yw hyn yn glir, dylai’r derbynnydd holi’r ymatebydd a oes ganddo’r hawl i’w defnyddio.
5.8 Os bydd y ceisiadau am wybodaeth yn ymwneud â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd sydd hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, dylai pawb dan sylw fod yn ymwybodol o ofynion y Ddeddf honno. O dan Ddeddf 2004 a Rheoliadau Cynllunio wrth Gefn 2005, mae gan ymatebwyr Categori 1 a 2 ddyletswydd i rannu gwybodaeth ag ymatebwyr Categori 1 a 2 eraill. Mae hyn yn ofynnol er mwyn i’r ymatebwyr hynny gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Anogir rhannu gwybodaeth hefyd am ei fod yn arfer da. Y dybiaeth gyntaf yw y dylid rhannu pob gwybodaeth, ond efallai y bydd angen rheoli rhyddhau peth gwybodaeth, a gwybodaeth i rai cynulleidfaoedd.
5.9 Ni ellir rhannu pob gwybodaeth, a gall ymatebwyr Categori 1 a 2 hawlio eithriadau mewn rhai amgylchiadau (a pheidio, felly, â darparu gwybodaeth fel y gofynnwyd). Mae eithriadau o dan y Ddeddf hon a’r Rheoliadau yn ymwneud â gwybodaeth sensitif yn unig. Lle bo’r eithriadau’n gymwys, rhaid i ymatebydd Categori 1 neu 2 beidio â datgelu’r wybodaeth. Rhaid i ymatebydd Categori 1 neu 2 wrthod cydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r wybodaeth yn sensitif ac os oes ganddo le rhesymol i gredu y byddai cydymffurfio â’r cais yn peryglu’r wybodaeth honno. Os bydd ymatebydd Categori 1 neu 2 yn gwrthod datgelu gwybodaeth ar y sail hon, rhaid iddo roi rhesymau dros wneud hynny, oni bai fod yr wybodaeth yn sensitif oherwydd ei heffaith ar ddiogelwch gwladol. Dylid nodi, fodd bynnag, mai dim ond ar adegau prin y mae’r eithriad hwn yn debygol o fod ar gael, am na fydd yn gyffredinol unrhyw reswm cadarn dros ddisgwyl i wybodaeth gael ei throsglwyddo.
5.10 Mae pedwar math o wybodaeth sensitif, fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau:
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Corff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Asiantaeth, a’i phrif nodau yw diogelu a gwella’r amgylchedd, a hyrwyddo datblygu cynaliadwy.
Prif Swyddfa
Tŷ Cambria 29 Heol Casnewydd Caerdydd CF24 0TP
|
Swyddfa Ardal y De-orllewin
Maes Newydd Llandarcy Castell-nedd Port Talbot SA10 6JQ
|
Swyddfa Ardal y De-ddwyrain
Plas yr Afon Parc Busnes Llaneirwg Heol Fortran Llaneirwg Caerdydd CF3 0EY
|
Swyddfa Ardal y Gogledd
Ffordd Penlan Parc Menai Bangor Gwynedd LL57 4DE |
Rhif Ffôn: 08708 506506 E-bost: enquiries@environment-agency.gov.uk Gwefan: www.environment-agency.gov.uk
|
|
Rhybuddion Llifogydd
Rhif Ffôn: 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr) Type Talk: 0845 602 6340
|
Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol yng Nghymru
Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) mewn perthynas ag ardal yng Nghymru yw naill ai:
a) y cyngor sir ar gyfer yr ardal; neu
b) y cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal.
Mae 22 o gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, sef:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Y Ganolfan Ddinesig Glynebwy Blaenau Gwent NP23 6XB
Rhif ffôn: 01495 311556 Minicom: 01495 355959 Cyfeiriad e-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk Gwefan: www.blaenau-gwent.gov.uk
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig Angel Street Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB
Rhif ffôn: 01656 643643 Ffacs: 01656 668126 Cyfeiriad e-bost: talktous@bridgend.gov.uk Gwefan: www.bridgend.gov.uk
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ
Penallta Hengoed CF82 7PG
Rhif ffôn: 01443 815 588 / 01495 226 622 Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 01443 875 500 Ffôn testun: 01443 863 474 Cyfeiriad e-bost: info@caerphilly.gov.uk Gwefan: www.caerphilly.gov.uk
|
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Rhif ffôn: (Cymraeg) 02920 872088 Rhif ffôn: (Saesneg) 02920 872087 Ffôn testun: 02920 872085 Ffacs: 029 2087 2086 Cyfeiriad e-bost: c2c@cardiff.gov.uk Gwefan: www.cardiff.gov.uk
|
Cyngor Sir Caerfyrddin Neuadd y Sir
Rhif ffôn: 01267 234 567 Cyfeiriad e-bost: direct@carmarthenshire.gov.uk Gwefan: www.carmarthenshire.gov.uk
|
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd Cyngor
Ceredigion
Rhif ffôn: 01545 570 881 Cyfeiriad e-bost: reception@ceredigion.gov.uk Gwefan: www.ceredigion.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Rhif ffôn: 01492 574 000 Ffacs: 01492 592 114 Cyfeiriad e-bost: information@conwy.gov.uk Gwefan: www.conwy.gov.uk
|
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Rhif ffôn: 01824 706 000 Canolfan gwasanaeth i gwsmeriaid: 01824 706 100 (Cymraeg), 01824 706 101 (Saesneg) Minicom: 01824 706170 Ffacs: 01824 706180 Cyfeiriad e-bost: customerservice@denbighshire.gov.uk Gwefan: www.denbighshire.gov.uk
|
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Rhif ffôn: 01352 752121 Cyfeiriad e-bost: info@flintshire.gov.uk Gwefan: www.flintshire.gov.uk
|
Cyngor Sir Gwynedd
Swyddfeydd y
Cyngor
Rhif ffôn: 01766 771000 Ffacs: 01286 673 993 Gwefan: www.gwynedd.gov.uk
|
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y
Cyngor
Rhif ffôn: 01248 750057 Gwefan: www.anglesey.gov.uk
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Y Ganolfan
Ddinesig
Rhif ffôn: 01685 725000 Cyfeiriad e-bost: customer.care@merthyr.gov.uk Gwefan: www.merthyr.gov.uk
|
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Rhif ffôn: 01633 644644 Ffacs: 01633 644 666 Cyfeiriad e-bost: contact@monmouthshire.gov.uk Gwefan: www.monmouthshire.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
Rhif ffôn: (Cymraeg) 01639 686869 Rhif ffôn: (Saesneg) 01639 686868, Ffacs: 01639 763444 Cyfeiriad e-bost: fcs@npt.gov.uk Gwefan: www.neath-porttalbot.gov.uk |
Cyngor Dinas Casnewydd
Y Ganolfan
Ddinesig
Rhif ffôn: 01633 656656 Minicom: 01633 656657 Ffacs: 01633 244721 Cyfeiriad e-bost: info@newport.gov.uk Gwefan: www.newport.gov.uk
|
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Canolfan gyswllt: 01437 764 551 Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 0845 601 5522 Ffacs: 01437 775 303 Cyfeiriad e-bost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk Gwefan: www.pembrokeshire.gov.uk
|
Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Y Ganolfan
Ddinesig
Rhif ffôn: 01792 636 000 Gwefan: www.swansea.gov.uk
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Ganolfan
Ddinesig
Rhif ffôn: 01495 762200 Ffacs: 01495 755513 Cyfeiriad e-bost: your.call@torfaen.gov.uk Gwefan: www.torfaen.gov.uk
|
Cyngor Sir Powys
Neuadd y Sir
Rhif ffôn ar gyfer ymholiadau cyffredinol: 0845 055 2155 Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 0845 054 4847 Cyfeiriad e-bost: customer@powys.gov.uk Gwefan: www.powys.gov.uk
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Pencadlys Parc
Cambrian
Rhif ffôn ar gyfer ymholiadau cyffredinol: 01443 424000 Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 01685 876 831 Gwefan: www.rhondda-cynon-taf.gov.uk |
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd
Dinesig
Rhif ffôn: 01446 700111 Gwefan: www.valeofglamorgan.gov.uk
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y
Dref
Rhif ffôn: 01978 292000 Minicom: 01978 292067 Cyfeiriad e-bost: webmaster@wrexham.gov.uk Gwefan: www.wrexham.gov.uk/ |
Byrddau Draenio Mewnol (BDM) yng Nghymru
Mae BDM, fel y cyfeirir ato yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, â’r un ystyr ag sydd iddo yn adran 1 o Ddeddf Draenio Tir 1991[18].
Sefydlwyd BDM mewn ardaloedd lle mae angen arbennig am ddraenio er mwyn defnyddio’r tir at ddibenion amaethyddol a datblygu. Prif swyddogaeth BDM yw rheoli lefelau dŵr yn eu hardaloedd er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd a chyflenwi dŵr (dyfrhau) i bobl, eiddo a thir. Mae gan BDM ddyletswydd i gadw golwg gyffredinol ar faterion yn ymwneud â draenio tir yn eu hardaloedd.
Mae llawer o’u gwaith yn ymwneud â rheoli lefelau dŵr drwy wella a chynnal afonydd, ffosydd draenio a gorsafoedd pwmpio at ddibenion cymdeithasol, amgylcheddol ac amaethyddol. Mae aelodaeth y BDM yn cynnwys aelodau etholedig sy’n cynrychioli meddianwyr y tir yn yr ardal ac aelodau a enwebir gan Awdurdodau Lleol i gynrychioli buddiannau lleol eraill.
Yng Nghymru, ceir tri BDM (rhestr isod) a cheir 11 o ardaloedd draenio eraill yn y Gogledd sy’n cael eu gweinyddu gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
BDM Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Pye Corner Broadstreet Common Trefonnen Casnewydd NP18 2BE
Rhif ffôn: 01633 275922 Ffacs: 01633 281155 Gwefan: www.caldandwentidb.gov.uk
|
BDM Rhannau Isaf Afon Gwy
Pye Corner Broadstreet Common Trefonnen Casnewydd NP18 2BE
Rhif ffôn: 01633 275922 Ffacs: 01633 281155 Gwefan: www.lowerwyeidb.org.uk |
||
|
BDM Powysland
Fferm y Wern Burgedin Y Trallwng SY21 9LQ
Rhif ffôn: 01691 650200 Gwefan: www.powyslandidb.org.uk |
|
|
Cwmnïau
Dŵr yng Nghymru
Mae ‘cwmni dŵr’ yn golygu cwmni sydd â:
· phenodiad o dan Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991[19]; neu
· drwydded o dan Bennod 1A o Ran 2 o’r Ddeddf honno.
Dŵr Cymru - Welsh Water *
Heol
Pentwyn
Rhif ffôn y brif swyddfa: 01443 452300 Gwasanaethau cwsmeriaid: 0800 052 0140 Gwefan: www.dwrcymru.co.uk
|
Cwmni Severn Trent Water Cyf.
Cysylltiadau
Cwsmeriaid
Ffôn: 024 7771 5000 Gwefan: www.stwater.co.uk
|
||
Dyffryn Dyfrdwy
Packsaddle
Rhif ffôn Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01978 833200 Ffacs: 01978 846888 Llinell ollyngiadau: 0800 298 7112 Argyfwng: 01978 846946 E-bost: contact@deevalleygroup.com Gwefan: Dee Valley Group
|
Albion Water Limited
78 High
Street
Rhif ffôn: 01582 767720 Argyfyngau: 0800 917 5819 E-bost: info@albionwater.co.uk Gwefan: www.albionwater.co.uk |
||
|
Scottish & Southern Water
Scottish and
Southern Energy ccc. PH1 3AQ
Rhif ffôn: 0845 744 4555 Gwefan: http://www.sse.com/Home/
|
|
|
* Yn ymdrin â’r rhan fwyaf o Gymru.
Awdurdod Priffyrdd
Mae i Awdurdod Priffyrdd yr un ystyr ag a roddir gan adran 1 o Ddeddf Priffyrdd 1980[20]. Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithredu fel awdurdodau priffyrdd mewn cysylltiad â ffyrdd lleol[21].
Gweithgaredd |
Enghraifft o Swyddogaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol |
Adeiladu
|
amddiffynfeydd rhag llifogydd neu erydu, draeniau mewn ffyrdd, carthffosydd. |
Glanhau |
cwlfertau, gylïau.
|
Cydweithredu |
cydweithio a chydgysylltu gweithgareddau. |
Datgomisiynu |
cored, amddiffynfa rhag llifogydd, cronfa ddŵr.
|
Gwarchod |
eiddo, tref, SoDdGA.
|
Cynllunio datblygiad |
gan sicrhau bod datblygu’n digwydd heb waethygu’r perygl o lifogydd.
|
Carthu |
cwrs dŵr.
|
Draenio |
priffordd, datblygiad newydd.
|
Rhagweld |
glawiad, llifogydd, ymchwydd llanw.
|
Gwella |
ffyrdd, diogelwch adeileddau.
|
Hysbysu |
darparu gwybodaeth neu ddata.
|
Ymchwilio |
i gael gwybod pa awdurdod sydd â swyddogaethau perthnasol pan geir llifogydd ac a yw’r swyddogaethau hynny wedi’u harfer.
|
Cynnal |
afonydd, adeileddau, systemau draenio, amddiffynfeydd môr.
|
Rheoli |
strategaethau, astudiaethau, cynlluniau.
|
Mapio |
llifogydd hanesyddol neu lifogydd a ragwelir.
|
Monitro |
proffiliau traethau, llif afonydd, cyflwr asedau.
|
Cynllunio |
strategaethau, astudiaethau, cynlluniau.
|
Amddiffyn |
pobl, yr amgylchedd, seilwaith.
|
Adfer |
ar ôl llifogydd.
|
Ailosod |
gorchuddion draeniau, arwyddion diogelwch.
|
Adrodd |
i’r llywodraeth.
|
Ymateb |
i ddigwyddiad.
|
Goruchwylio |
gwaith ar safle, perygl llifogydd.
|
Arolygu |
lefelau amddiffyn, lleoliadau asedau, hyd a lled llifogydd.
|
Rhybuddio |
am lifogydd, cyfraddau erydu. |
[1] Diffinnir Awdurdodau Rheoli Perygl yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae Awdurdodau Rheoli Perygl Cymru yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, Byrddau Draenio Mewnol sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, awdurdodau priffyrdd a chwmnïau dŵr sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ardaloedd yng Nghymru (gweler Atodiad A am restr o ARhP yng Nghymru).
[3] Angen dolen at ganllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd
[4]http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/communities/toolkit/?lang=cy
[5] Bydd y rhaglen a ariennir gan Ewrop yn cefnogi 28 prosiect sy’n mynd i’r afael â pherygl o lifogydd. Ei nod yw lleihau’r perygl o lifogydd ar gyfer o leiaf 2,700 o bobl yng Nghymru dros chwe blynedd. Mae’r Rhaglen yn derbyn cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) - http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/convergence/?lang=cy
[6]http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/communities/toolkit/?skip=1&lang=cy
[7] Adroddiadau Peilot - http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/studies/pilotstudies/?lang=cy
[8] Mae’r Rhaglen Dulliau Newydd bellach wedi cau ond rhoddir yr egwyddorion ar waith drwy’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Mae copi o’r adroddiad terfynu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru – http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/studies/newapproaches/?lang=cy
[9] Yng Nghymru, Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yw’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Mae’r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol.
[10] Diffinnir y swyddogaethau rheoli perygl llifogydd yn Adran 4 o
Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac maent yn cynnwys rhai
swyddogaethau penodol o dan y Ddeddf honno, Deddf Adnoddau Dŵr
1991, Deddf Draenio Tir 1991 a Deddf Priffyrdd 1980. Maent hefyd yn
cynnwys swyddogaethau o dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009;
ychwanegwyd y rhain at y diffiniad o swyddogaethau rheoli perygl
llifogydd gan Orchymyn Swyddogaethau Rheoli Perygl Llifogydd
2010.
Diffinnir y swyddogaethau rheoli perygl erydu arfordirol yn Adran 5 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac maent yn cynnwys swyddogaethau penodol o dan y Ddeddf honno a Deddf Amddiffyn y Glannau 1949.
[11]http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/nationalstrategy/strategy/;jsessionid=nYwWPPVKFlsqyyrfX6qp62vWh2JsMSyWnXXLfhKg9PdkvB9CRyCl!1935070368?lang=cy
[13] Nid oes cytundeb ffurfiol ar gyfer sefydlu partneriaethau. Dylid eu sefydlu yn ôl y ffeithiau penodol sy’n gysylltiedig â phob sefyllfa.
[14] Angen disgrifiad byr o’r THG.
[18] Adran 1 o Ddeddf Draenio Tir 1991, i’w gweld yn -www.legislation.gov.uk/ukpga/1991/59/section/1
[19] Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’w gweld yn - www.legislation.gov.uk/ukpga/1991/56/contents
[20] Deddf Priffyrdd 1980, i’w gweld yn - www.legislation.gov.uk/ukpga/1980/66
[21] Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru.